Deg nofel Gymraeg y dylai pawb eu darllen

Adam Pearce

Un agwedd anffodus ar fod yn siaradwr iaith leiafrifol yw bod angen gwneud ymdrech arbennig i ddysgu am eich treftadaeth ddiwylliannol eich hunan.

Er ein bod yn cael clywed drwy’r amser am glasuron llenyddol Saesneg drwy’r cyhoeddusrwydd a ddaw o’r addasiadau teledu diweddaraf ac ati, pan ddaw at lenyddiaeth Cymraeg, i lawer, yr ysgol yw’r unig gyfle i gael mynediad at ein llenyddiaeth.

Gyda’r system addysg yn rhoi mwy a mwy o bwyslais ar sgiliau sylfaenol a chyflogadwyedd, a’r angen naturiol i wersi Cymraeg ganolbwyntio ar hanfodion llythrennedd yn y Gymraeg, prin yw’r cyfle i lawer o siaradwyr gael eu cyflwyno i lenyddiaeth yn yr iaith o gwbl.

Mae’r diffyg cyswllt hyn yn arwain rhai i feddwl nad oes cyfoeth llenyddol ar gael yn y Gymraeg, neu os oes, ei fod yn gysgod tila o’r hyn sydd ar gael mewn Saesneg.

Drwy lunio’r rhestr ganlynol rwy’n gobeithio dangos nad yw hyn yn wir o gwbl.

Gobeithio byddaf yn rhoi gwybod i ambell un am nofelydd newydd nad ydyn nhw wedi cael y cyfle i fwynhau ei gwaith eto.

Os dim byd arall, gobeithio bydd darllen y rhestr hon yn dod â thipyn o hwyl, fel y gwnaeth i mi wrth ei llunio!

Rydw i wedi cadw at y rheolau canlynol, yn bennaf er mwyn sicrhau ystod eang o waith ar y rhestr:

  • Dim mwy nag un nofel gan yr un awdur
  • Dim mwy na dwy nofel a gyhoeddwyd yn yr un degawd
  • Dim llyfrau plant – nid er mwyn awgrymu nad yw’r un faint o werth llenyddol yn gallu perthyn i lyfr i bobl ifanc; ond rhestr wahanol fyddai hynny, ac nid wyf o reidrwydd yn meddu ar y wybodaeth angenrheidiol i’w lunio.
  • Rydw i wedyn wedi rhestri’r nofelau yn nhrefn dyddiad eu cyhoeddi yn hytrach na’i safon – digon anodd yw penderfynu ar ddeg nofel yn unig i’w cynnwys, heb sôn am orfod penderfynu ym mha drefn y dylid eu trefnu.

Rydw i wedi gwneud ymdrech i beidio â chynnwys gormod o weithiau sy’n rhy debyg i’w gilydd o ran testun nac arddull.

Cymaint yw cyfoeth y Nofel Gymraeg, y byddai’n ddigon hawdd creu rhestr o ddeg nofelCymraeg am ferched sy’n mynd yn wallgof, neu deg nofel am fywyd ar fferm, ac ati.

Rydw i wedi ceisio cynrychioli ystod eang o lyfrau gwahanol.

Cyn mynd ymlaen, rhaid pwysleisio wrth gwrs mae fy marn i yn unig a roddir fan hyn – fel y gwelwch chi, mae’r dewisiadau yn adlewyrchu’r hyn yr ydw i’n ei fwynhau ac yn chwilio amdani mewn llyfrau.

Dydw i ddim yn ceisio dweud mai dyma 10 Nofel Orau’r Iaith Gymraeg o reidrwydd – fel y gwelwch chi, mewn ambell achos rydw i wedi dewis llyfr nad yw o reidrwydd fy ffefryn gan yr awdur penodol.

Wedi dweud hynny, rydw i’n teimlo y byddai darllen y deg nofel yma yn rhoi trosolwg gweddol gyflawn o hanes y nofel yn y Gymraeg: deg nofel yma sydd, fel casgliad, yn amlinellu cyfoeth traddodiad y nofel yn y Gymraeg.

Os ydych chi’n teimlo fy mod i wedi methu nofel neu awdur, neu’n anghytuno am unrhyw un o fy newisiadau, rhowch wybod yn y sylwadau isod – neu beth am greu eich rhestr eich hun?

 

  1. Profedigaethau Enoc Huws (1891)

 

Daniel Owen (1836-1895)

Mae hanes y nofel yn Gymraeg yn dechrau â Daniel Owen i bob pwrpas, ac ni fyddai unrhyw restr o nofelau pwysig yn y Gymraeg yn gyflawn heb gynnwys enghraifft o’i waith.

Rhys Lewis efallai oedd ei nofel fwyaf dylanwadol, ond rydw i wedi dewis Enoc Huws gan mai honno oedd ei nofel fwyaf strwythuredig a chrefftus.

Ond nid gwerth hanesyddol yn unig sydd i’r nofel hon: mae’r stori’n un gafaelgar sy’n cyfuno comedi gwirioneddol ddoniol â mewnwelediad craff o ragfarn ddynol.

Mae prif blot y stori yn dilyn ymdrechion conman i ddiogelu ei ddyfodol drwy berswadio dynion busnes, gan gynnwys Enoc Huws y teitl, i fuddsoddi mewn prosiectau mwyngloddio ffug.

Mae’r elfen grefyddol yn llai amlwg nag yn nofelau eraill yr awdur ac mae hynny hefyd yn cyfrannu efallai at y ffaith mai hwn yn nofel fwyaf hygyrch Daniel Owen i ddarllenwyr cyfoes.

Mae llawer yn credu nad oes lawer o werth i lenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg; mae’r llyfr hwn yn profi’r gwrthwyneb, a dylai pawb sydd â mymryn o ddiddordeb yn hanes llenyddiaeth Gymraeg ei ddarllen.

Fel pob un o nofelau Owen mae gan Enoc Huws hanes golygyddol cymhleth ac mae’n werth sicrhau eich bod yn darllen y fersiwn llawn, anhalfyredig: yr argraffiad sy’n dwyn y clawr uchod sydd orau.

 

  1. O Law i Law (1943)

T. Rowland Hughes (1903-1949)

Roedd dewis un yn unig o bum nofel T. Rowland Hughes yn weddol anodd gan fod i bob un ei chryfderau.

Mae mwyafrif nofelau Hughes yn trafod diwylliant chwarel’r gogledd-orllewin, ac roeddwn eisiau dewis Chwalfa oherwydd pwysigrwydd hanesyddol pwnc y nofel, sef Streic Fawr chwarel y Penrhyn ar ddechrau’r 20fed ganrif, ond penderfynais setlo ar O Law i Law gan mai hon efallai yw nofel fwyaf dirdynnol a theimladwy’r awdur.

Mae dyn yn gwerthu eiddo ei Dad ac wrth wneud hynny mae’n rhannu ei atgofion gyda’r darllenydd am ei gymdeithas, eu bywydau a’u gwerthoedd.

Mae tueddiad weithiau i ddiystyru gwaith T. Rowland Hughes am fod yn sentimentalaidd ac er bod hynny weithiau’n gyhuddiad teg, ar yr un pryd mae’n tanbrisio nofelydd oedd yn llunio’i weithiau yn ofalus; gallu a fyddai wedi bod yn amhrisiadwy yn nwylo Daniel Owen.

Bu Hughes yn gynhyrchiol iawn dros ei yrfa cymharol fyr a phan fu farw’n gynnar o effaith sglerosis ymenyddol (MS), fe gollwyd un a allasai fod wedi cyfrannu dwsinau o nofelau eraill i’r iaith.

Cynrychiolodd Hughes ddechrau dadeni o ran nofelau yn y Gymraeg a barodd tan y 1960au.

 

  1. Y Byw sy’n Cysgu (1956)

Kate Roberts (1891-1985)

Nofelydd arall y mae’n anodd iawn dewis un gwaith i’w cynrychioli.

Nid heb reswm y gelwir Kate Roberts yn ‘frenhines y stori fer’ ac yn y genre hwnnw efallai y mae ei gwaith gorau, ond mae ei nofelau heb os yn llawn haeddu eu cynnwys ar unrhyw restr o nofelau pwysig yn y Gymraeg.

Rydw i wedi dewis Y Byw sy’n Cysgunofel fewnblyg am fenyw sy’n gadael ei gŵr – pwnc dadleuol a dewr i’w trafod yn 1956, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn wahanol i Monica gan Saunders Lewis (nofel nad yw’n gwneud fy rhestr), mae’n gwneud hynny’n â sensitifrwydd a chydymdeimlad yn hytrach na chondemio.

 

  1. Wythnos yng Nghymru Fydd (1957)


Islwyn Ffowc Elis (1924-2004)

Yn sicr, nid y nofel hon mo uchafbwynt celfyddydol na llenyddol ei hawdur, na chwaith o reidrwydd ei nofel fwyaf darllenadwy.

Credaf fodd bynnag bod modd dadlau mai dyma nofel bwysicaf Elis, am nifer o resymau.

Yn gyntaf, dyma nofel ffuglen wyddonol gyntaf iaith Gymraeg, neu o leiaf y cyntaf o unrhyw sylwedd.

Cynrychiolodd ei chyhoeddiad y ffaith bod modd defnyddio’r Gymraeg i drafod unrhyw bwnc ac unrhyw ddeunydd, ffaith a fu wrth gwrs yn wir erioed, ond a wnaethpwyd yn glir i’r cyhoedd á chyhoeddi’r nofel hon.

Yn ail, er gwaetha’r agenda gwleidyddol oedd wrth wraidd yr hyn yr oedd Elis yn ceisio’i wneud gyda’r nofel, mae’r syniadau mae’r nofel yn cyffwrdd arnynt o ran natur hanes a realiti yn gwirioneddol ddiddorol ynddynt eu hunain.

Nofel sy’n llawn haeddu ei lle mewn rhestr fel hon.

 

  1. Un Nos Ola Leuad (1961)

 
Caradoc Pritchard (1904-1980)

Am gyfnod cyffrous yn hanes y nofel Gymraeg oedd hwn, gyda Kate Roberts ac Islwyn Ffowc Elis yn cyhoeddi eu campweithiau!

Fodd bynnag, nid i’r naill neu’r llall o’r nofelwyr yma y daeth nofel enwocaf a mwyaf dylanwadol y cyfnod. Mae Un Nos Ola Leuad yn nofel arloesol, ond mewn ffyrdd hollol wahanol i Wythnos yng Nghymru Fydd.

Mae dylanwad gweithiau stream-of-consciousness awduron fel James Joyce yn glir yma, ond nofel Gymreig yw Un Nos Ola Leuad yn ei hanfod.

Nofel yw yn y bôn am ddirywiad meddyliol mam y traethydd, dirywiad a chyflwynir drwy gyfuniad o drosiadau cymhleth o dirwedd fynyddig y Gogledd-orllewin â chymeriad sydd, drwy ei oed a’i natur, rywfaint ar wahân o’r digwyddiadau sy’n digwydd o’i gwmpas.

Dyma ddechrau’r abswrd, y swrreal a’r tywyll mewn nofelau Cymraeg – heb sôn chwaith am ddefnydd tafodiaith drwchus – ac mae ei ddylanwad i’w weld yn glir iawn yng ngwaith awduron mwy diweddar megis Robin Llywelyn, Angharad Tomos, Mihangel Morgan ac eraill.

 

  1. Marged (1974)

T. Glynne Davies (1926-1988)

Efallai dyma nofel ac awdur lleiaf adnabyddus y rhestr hon, ond yn fy marn i mae’n perthyn i’r rheng flaenaf oll ymhlith nofelau yn y Gymraeg, a hnyny er gwaetha’r ffaith iddi gael ei chyhoeddi yn ystod cyfnod gweddol dawel yn hanes nofelau yn yr iaith.

Saga hir yw Marged am hanes teulu yn Llanrwst yn Nyffryn Conwy dros nifer o genedlaethau o chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y rhyfel byd cyntaf; mae aelodau’r teulu yn dioddef effeithiau grymoedd nad oes modd eu gwrthwynebu, boed yn dlodi neu ryfel neu effaith andwyol gwasgedd cymdeithasol.

Mae i’r nofel ei wendidau, gyda rhagfarn obsesiynol gwrth-wyddelig yn flaenaf oll ymysg y rheiny, ond mae’n haeddu cynulleidfa mwy.

Dyma un o weithiau mwyaf uchelgeisiol Llenyddiaeth Gymraeg a dylai pawb sy’n ymddiddori yn ein hanes rhoi cynnig arni o leiaf.

 

  1. Y Pla (1987)

 

William Owen Roberts (1960 -)

Agwedd a sylwir arni’n gyffredin wrth drafod llenyddiaeth ieithoedd lleiafrifol yw bod tueddiad i lenorion ganolbwyntio ar destunau cyfarwydd, gan leoli eu gwaith yng nghyd-destun y diwylliant y maent yn perthyn iddo.

Mae William Owen Roberts yn enghraifft glir i’r gwrthwyneb: nid yw’n gadael i’r ffaith mae’n ysgrifennu yn y Gymraeg ei rwystro rhag trafod y pynciau sy’n ei ddiddori.

Mae rhannau o Y Pla yn digwydd mewn pentref yng Nghymru, ond mewn gwirionedd gellid eu symud i unrhyw fan arall yn Ewrop y canol oesoedd heb effeithio dim ar y stori.

Mae ei nofelau mwy diweddar, Paradwys Petrograd yn symud ymhellach y tu hwnt i’r profiad Cymreig, a da o beth yw hynny: os mae’r Saesneg yn gyfrwng teilwng i drafod unrhyw bwnc dan haul, yna pam lai’r Gymraeg?

Agwedd arall am waith William Owen Roberts sy’n apelio ataf i’n bersonol yw uchelgais ei nofelau: nid iddo ef cyfrolau byrion, hawdd eu darllen, ond yn hytrach nofelau enfawr, trwchus sy’n trafod hanfodion gwleidyddiaeth a’r ddyniolaeth.

Mae’r penderfyniad i ysgrifennu nofelau mor fawr a chymhleth mwy na thebyg wedi cyfyngu ei gynulleidfa rywfaint, ond mae gwaith William Owen Roberts yn haeddu ei ddarllen gan bawb.

Rydw i wedi dewis y Pla yn benodol er mwyn llenwi bwlch a fyddai yn y rhestr rhwng yr 70au a’r 21g, ac i fodloni’r rheol uchod am beidio cynnwys gormod o lyfrau o’r un cyfnod.

Ond mewn gwirionedd pob un o nofelau’r awdur yn gyfraniad pwysig at yr iaith ac ychydig sydd i ddewis rhyngddynt o ran safon gyffredinol.

 

  1. Seren Wen ar Gefndir Gwyn (1992)

 
Robin Llywelyn (1958) –

Dwi wedi gweld y term realaeth hud (magical realism) yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio nofel unigryw Robin Llywelyn, ond ffantasi yw hwn mewn gwirionedd ac am wn i dim ond genre­snobyddiaeth sy’n achosi i unrhyw un osgoi’r term.

Er bod byd boncyrs y nofel yn hollol ddychmygus, mae’n hawdd gweld sut dyfodd o ddychymyg Cymreig gan fod y nofel yn ymdrin â phynciau fel cenedl a’r ymwybyddiaeth ohoni.

 

  1. O! Tyn y Gorchudd (2002)


Angharad Price (1972-)

Nofel arall sy’n herio diffiniadau a gwrthsefyll unrhyw ymgais i’w gategoreiddio’n llawn, mae’r llyfr hwn yn plethu elfennau o fywgraffiaeth, hanes lleol a’r dychymyg i greu rhywbeth sydd, am wn i, yn hollol unigryw yn yr iaith.

Heb eisiau datgelu gormod, mae’r nofel yn chwarae a’r syniad o “wir” a “ffuglen” mewn ffordd hollol annisgwyl. Mae’r llyfr yr un mor arbrofol a nofelau eraill ar y rhestr hon fel Y Pla neu Seren Wen, ond yn llawer mwy darllenadwy.

 

  1. Dyn yr Eiliad (2003)


Owen Martell (1976 -)

Gogledd-orllewin Cymru yw tarddiad llawer o nofelau Cymraeg, gan gynnwys nifer fawr ar y rhestr hon.

Does dim byd o’i le ar hynny – mae’n naturiol gan mae’r Gogledd-orllewin fu cadarnle’r iaith yn ystod yr 20fed ganrif.

Fodd bynnag teg yw nodi mai ardaloedd dinesig y De sy’n cynrychioli cylch profiad mwyafrif siaradwyr Cymraeg yr unfed ganrif ar hugain, ac roeddwn eisiau cynnwys o leiaf un nofel sy’n adlewyrchu’r profiad hynny.

Roedd yn anodd dewis rhwng hon a Ffydd, Gobaith Cariad gan Llwyd Owen, ond penderfynais ddewis nofel Owen Martell yn y diwedd am mai honno yw’r mwyaf uchelgeisiol o’r ddau.

Mae’r stori hon am y berthynas rhwng tri chymeriad ifanc o Ddowlais yn llwyddo i wneud Cymreictod a’r iaith Gymraeg yn elfen anghanolog o’r stori, tra ar yr un pryd disgrifio profiad a bodolaeth na ellir ond bod yn Gymreig.

Yn fy marn i dyma nofel orau’r iaith Gymraeg ers troad y ganrif.


Notice: the_widget was called incorrectly. Widgets need to be registered using register_widget(), before they can be displayed. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 4.9.0.) in /var/www/vhosts/nation.cymru/dev.nation.cymru/wp-includes/functions.php on line 4231

We do not moderate comments before they appear. The views expressed in the comments are those of our users and do not necessarily reflect the views of Nation. Cymru. Please read our community standards and participation guidelines before contributing.

newest oldest most voted
Notify of
JD
Guest
JD

I fi:

Dan Gadarn Goncrit gan Mihangel Morgan
Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames
Y Gaeaf Sydd Unig gan Marion Eames
Traed Mewn Cyffion gan Kate Roberts

Adam Pearce
Guest
Adam Pearce

Roedd cynnwys Traed Mewn Cyffion yn demtasiwn, a rhaid oedd cynnwys rhywbeth gan KR, ond dewisais gynnwys rhywbeth gwahanol gan fy mod yn gwybod bod rhaid cynnwys rhywbeth gan T. Rowland Hughes, ac Un Nos Ola Leuad, ac fy mod i eisiau cynnwys Marged hefyd.

JD
Guest
JD

Fi yn lico dy ddewisiadau di. Teg yw dweud y byddai’n bosibl creu 40 uchaf.

Wrth fy modd ag Eira Mawr, Cysgod y Cryman a Y Blaned Dirion gan Islwyn Ffowc Elis.

Martha, Jac a Sianco yn dda hefyd.

Nic
Guest
Nic

Dwlu ar y gaeaf sydd unig

Brian ap Francis
Guest
Brian ap Francis

A need to remove the word “nation”from this site name. Welsh Language only please. Welsh speakers only. Keep it insular.

JD
Guest
JD

Oh piss off and grow up. Are you saying Welsh speakers can’t be a part of our nation?

Brian ap Francis
Guest
Brian ap Francis

Using such language does nothing for your credibility nor for Wales at large.

JD
Guest
JD

Well you need telling. This isn’t the website for you if you display attitudes like that. Go get a room with Jacques Protic.

sibrydionmawr
Guest

Okay Brian, so you don’t like the Welsh language, and I think we all get that, but instead of being negative, as well as perhaps making yourself look a bit of a bigoted prat, why not be positive and maybe point out that we have a wonderful literary tradition in English too? Personally I think you should be challenged to list what you consider to be the ten best novels, by ten different Welsh authors who either write, or wrote in English – not including people like Roald Dahl.

Dafydd Huw Rees
Guest
Dafydd Huw Rees

Over 90% of the articles on this website are in English. Don’t you think you’re over-reacting a little?

Gareth
Guest
Gareth

Welsh language articles are very rare on this site, and yet still people complain when they appear.

It’s about Welsh novels. People who do not understand written Welsh would not be able to read the books that the article writes about.

David Jones
Guest
David Jones

“It’s about Welsh novels. People who do not understand written Welsh would not be able to read the books that the article writes about.”

Perhaps people would be less confused if a small note to this affect was added at the bottom of the article. Could do the same on articles written in English too, just to be fair 😉

Seriously though, I’m sure the content of this is great. Perhaps the author could write a summary in English, essentially detailing what people are missing out on, to encourage people to learn Welsh.

Nic
Guest
Nic

If you can’t tell by scrolling through the article that it is about Welsh language novels then I doubt you’re literate in any language.

Edeyrn
Guest
Edeyrn

the only insular bigot here is you Brian ap Francis …. hypocrite of the highest order attacking non-English languages

Nic
Guest
Nic

Aren’t the majority of articles in English? This is an article about Weksh literature. What possible reason could there be to write it in English?

Jason Morgan
Guest

C’wilydd gennai ddweud na dim ond dwy o’r rhain dwi wedi’u darllen. Fy hoff nofel Gymraeg i (o ddiystyrru Un Nos Ola Leuad, y mae bron pawb yn ei dewis fel eu nofel ora – ac yn haeddiannol felly) ydi ‘Martha, Jac a Sianco’ ond dwi’m yn siŵr a fyddai hi’n iawn ei chynnwys yn y rhestr uchod chwaith, am nad ydi hi’n rhestr 10 Nofel Orau. Dwi’n meddwl un swni’n cynnig i’r uchod ydi Blasu gan Manon Steffan Ros – fedra i ddim rhoi fy mys i ar pam ei bod hi’n nofel gystal, ond mae hi. Mae ‘na… Read more »

Adam Pearce
Guest
Adam Pearce

Mi wnes i feddwl am gynnwys Martha Jac a Sianco, ond penderfynais bod llawn digon o nofelau am y Gymru wledig ar y rhestr yn barod a’i bod yn haws cynnwys llyfrau amgen o’r cyfnod diweddar, tra bod llai o ddewis yn gynharach. Wedi dweud hyny gallwn i wedi ei chynnwys ynlle O! Tyn y Gorchudd; dwi’n meddwl mai achos fy mod i yn bersonol yn hoffi nofel AP yn fwy.

Benjiman L. Angwin
Guest
Benjiman L. Angwin

Mae Petrograd wedi achub Wiliam Owen Roberts o’m tyb i, a’i roi mewn lle gallwn i ystyried darllen nofelau eraill ganddo. Roedd y Pla yn bregethiol, bron yn sarhaus o bregethiol, oherwydd ei diwedd-glo, a bu mawr blesur gen i fod yr awdur wedi cadw draw rhag ochri’n llwyr â Chomiwnyddion er mwyn bwrw pregeth hen ffasiwn gwrth-gyfalafol yr 20g. yn Petrograd. Mwynheais Petrograd i’r dim. Ond siom oedd Paris i raddau, gan ddaeth y pregethu gwrth-gyfalafol bron diderfyn yn ôl, ac nid oedd modd gwybod pwy oedd yn siarad rhan helaeth o’r amser. Roedd yn bwrpasol aneglur mewn ymdrech… Read more »

Adam Pearce
Guest
Adam Pearce

Tria Paradwys. Mae’r gwleidyddiaeth am ddiffyg moesau’r dosbarth uchaf, nid cyfalafiaeth fel y cyfryw.

Benjiman L. Angwin
Guest
Benjiman L. Angwin

Ar ôl Norah Isaac ac Arthur Machen efallai. Diolch.

Gaynor
Guest
Gaynor

Hoffi nofelau Wil Garn ond nid y diweddglo- mae nhw gyd yn mynd yn ufflon – pla a paradwys!! Don’t get Kate Roberts- llyfr Angharad Price yn gampwaith- and Mr Francis if you were not so insular you wld have read some of these novels as they have been translated – so you can shove your insularity where the sun don’t shine

kim erswell
Guest
kim erswell

Dwi’n ffan fawr o nofelau gan yr awdur, Dewi Prysor, gynnwys y triawd – Brithyll, Madarch a Crawia: lot o hwyl a sbri ar bob tudalen; hefyd gymeriadau lliwgar. Ond mae ‘na o nofelwyr gwych yn y Gymru Gymraeg.

David Jones
Guest
David Jones

I can’t read Welsh, but I’d love to know what these books are about, and why the author thinks that we should read them. Perhaps knowing what they are about would inspire me to learn Welsh so that I could read them.

I suppose I’m saying that I’d like to know a little bit more about what I’m missing out on!

jrsdavies
Guest

Don’t despair, David. Some of these novels (maybe all of them for all I know) have been translated. Certainly Kate Roberts and Caradog Prichard are available in English, and I recently enjoyed William Owen Roberts’s Petrograd in translation — well worth seeking out, and I’m looking forward to its sequel, Paris, which I think is out in English soon. My Welsh isn’t good enough to read other than very slowly, but I did once get through some of the interestingly futuristic Wythnos yng Nghymru Fydd slowly, with dictionary to hand …

Adam Pearce
Guest
Adam Pearce

Hello David, thanks for your comment. To my knowledge I don’t think there are English translations of 4, 6, and 10 on the list, but I believe the rest are all available in English versions, though you might have difficulty finding copies in some cases (plug/personal disclaimer: I played a small editorial role in a recent English translation of Enoc Huws, the first book on this list).

I am considering producing another post (in English) recommending 10 Welsh works to read in translation; would that be of interest?

David Jones
Guest
David Jones

Thanks for your reply. Yes that would definitely be of interest.

Marc Evans
Guest
Marc Evans

Gwnewch ar bob cyfri’… Y llyfr a’m sbardunodd yn fwy nag un arall i fynd ati i astudio Cymraeg, a’r llyfr cyntaf i mi ei ddarllen o Gymru, oedd trosiad o’r Mabinogi a rhai chwedlau eraill, mewn cyfres ar chwedloniaeth y byd, ar gyfer pobl ifainc (wel, yn yr adran honno yn y llyfrgell y des i ar ei draws – adran nad yw yno bellach), Mae llyfrau eraill wedi bod – straeon byrion ‘Selected Short Stories’ Gwyn Jones (a fe, os cofiaf yn iawn, a drosodd y casgliad o chwedlau uchod) yn gasgliad pwerus arall. Gallaf restru lluoedd o… Read more »

Osian
Guest
Osian

“Fel pob un o nofelau Owen mae gan Enoc Huws hanes golygyddol cymhleth ac mae’n werth sicrhau eich bod yn darllen y fersiwn llawn, anhalfyredig: yr argraffiad sy’n dwyn y clawr uchod sydd orau.”
Ond fersiwn wedi’i thalfyru sy’n y llun, fel yn y 3 nesaf hefyd!
Rhestr ddifyr, wedi darllen 4 a hanner…
Oni dan yr argraff bod Chwalfa ben ac ysgwydd uwchben gweddill stwff TRH. Mai’n sicr yn well na William Jones, sy’n uffernol ddiflas.

Adam Pearce
Guest
Adam Pearce

Ifan wedi f’achub uchod ond ie, roedd y llun a ddefnyddiais i’n wreiddiol yn wahanol. Fersiwn gomer o tua 2002?

Baswn I ddim yn cynghori i neb ddarllen talfyriadau; hyd yn oed dysgwyr (gwell iddynt ddarllen llyfrau syml sy’n hawdd eu darllen).

Parthed TRH; ie mae William Jones bach yn ofyrretid ond mae gwerth ym mhob un o’i lyfrau.

Brian ap Francis
Guest
Brian ap Francis

That is quite right. If it is worth putting something on this site then the format should be such that all subscribers can understand and enjoy. Hence the point of my original posting.

Nic
Guest
Nic

I don’t understand the sports pages in newspapers because I don’t know anything about sports. By your reasoning, all sports news should be written in a way that someone like myself can understand thus spoiling it for all the people who have taken the trouble to understand sports? Alternatively, we can keep things as they are, things written for a specific audience, and people who can’t be arsed to make the effort to understand can flick, or click, to another page?

RichardBlacklaw-Jones
Guest
RichardBlacklaw-Jones

Diolch am yr erthygl. Diddorol iawn.

Daf
Guest
Daf

Profedigaethau Enoc Huws – efallai’r nofel orau i mi ei ddarllen, mae hi dal i fod yn gyfoes. Diolch i ti am y rhestr ac am roi wthiad bach i mi ddarllen rhai o’r lleill dwi heb eu darllen eto.

Helen
Guest
Helen

[Excuse my writing in English, but I’d be here all day if i wrote in Welsh] Diddorol dros ben. As a learner, i find reading Welsh novels is a fantastic way of picking up new words and phrases, and of course, it allows you to soak up Welsh history and that sense of Welshness that goes with the language. I have two works that I’d place in the top ten. 1. Y Wisg Sidan, Elena Puw Morgan. A story of a girl escaping from poverty into voluntary servitude, who happily endures hardship and shame for her master. Written in the… Read more »

Benjiman L. Angwin
Guest
Benjiman L. Angwin

Mae Islwyn Ffowc Elis yn athrylith (Islwyn Ffowc Elis is a genius).

I enjoyed nofelau Lleifior to no end. My only constant barrier was that I was consistently rooting against Harri Vaughn, hoping he could embrace what was his without self-pity and guilt, hoping he became mature enough to see through his own self-righteousness. But he never did mature, which made nofelau Lleifior the most profound tragedy I’ve read in Cymraeg aside from Canu Llywarch Hen.

Gareth Glyn
Guest
Gareth Glyn

Hynod o falch o weld nofel fy nhad, ‘Marged’, yn y rhestr, a darllen y ganmoliaeth iddi. Diolch, Adam.

Manon Griffiths
Guest
Manon Griffiths

Mwynhau’r erthygl a’r dewis o lyfrau’n arw, a rhai o’r atebion!

Graham John Hathaway
Guest

Dysgwyr ydy i. Am lawer blynyddol. Galla deall geriau sythfaenol, ac mynhau yn weld erthyglau yn Cymraeg pan mae eisiau bod yn siarad pethau o Gymru llenyddiaeth, amgen , beth yw reswm I dysgu iddo fe.
Maen hawdd i ddarllen sais os wedi dangos, ond ddim gyda pob erthygl. Chwarae teg y rhai hynny pwy weld Gymreag fel cyfartal ac wedi ysgrifenni am llyfrau Gymraeg. Y rhai hynny pwy cwyno dangos prejudice ac mae pwnc personal.

Nic
Guest
Nic

Diolch am dy gefnogaeth a dy ymdrech Graham.

Graham John Hathaway
Guest

Diolch Nic, roeddwn i nerfus I ysgriffenni yn Gymreag, felly rhy Hapus i weld dy negus di. Llawer dymuno. A diolch am dy Nation.Cymru. Mae cyfroi I weld e a cyfrannu. Mae Gymreag yn byw.

Trailorboy
Guest
Trailorboy

When I saw the title for this I instantly thought yes, this is exactly the sort of article I personally wanted to see. It hit a chord, because I have been pestering people in the local library for recommendations and I’ve seen lists on line etc, but I’m still trying to find that elusive book, that I could say I would read again. I’ve read more Welsh books in the last year, than English books in the ten years before, so I am not a naturally enthuisiastic book reader in any language, but having said that I haven’t read one… Read more »

Amelia Davies
Guest
Amelia Davies

‘Mab y cychwr’ ac/neu ‘ Y Traeth ‘ Haf Llewelyn, ynhgŷd â ‘Blasu’ Manon Steffan Ros yn bendant ar fy rhestr i. ‘ Wythnos yng Nghymru Fydd’ y llyfr mwya ysgytwol imi ddarllen yn fy arddegau, ac wedi ‘para’ gyda fi. / I also think that it would be a good idea to have a list of Welsh novels written in English which have made an impact.

Amelia Davies
Guest
Amelia Davies

Trailpor boy …Dadeni by Ifan or Gwales by Catrin Dafydd may appeal to you…read both and they are certainly very different!

Amelia Davies
Guest
Amelia Davies

Sorry that should be Trailorboy!

Trailorboy
Guest
Trailorboy

Diolch,

It’s obviously not my real name anyway.

glasiad
Guest
glasiad

Don i ddim yn darllen llawer o nofelau Gymraeg ond fy hoff yw Gwylliad Glyndwr gan Daniel Davies (Llanarth, Sir Fynwy). Tra-doniol dros ben.

Ar y clawr: “Nofel o ddifyrrwch a doniolwch pur, am un o’r mudiadau lleif brawychus ond mwyaf cyfrwys a welodd Cymru ers y Free Wales Army”

http://www.ylolfa.com/products/9780862439873

Hefyd: Sodom a Seion gan Marcel Williams (Pum Heol ger Llanelli). Fel Gwylliad Glyndwr, dychan doniol.

“Nid angladd cyffredin gafodd Ivor Mostyn, gwr Harriet a chariad Kilvert, y ficer. O dan arweiniad gweinidog Seion, mae pentref Cwmderwen yn cyhoeddi rhyfel terfynol ar y Gelyn Mawr!”

http://www.ylolfa.com/cynnyrch/9780862432393/sodom-a-seion

Robert Williams
Guest
Robert Williams

‘Roeddwn ymhlith y rhai fu’n amheus am gyhoeddi adolygiad o’r ffilm Blade Runner ar y wefan hon, ond gallaf roi croeso cynnes i’r erthygl hon am nofelau Cymraeg – ffordd llawer gwell o ledu cynnwys y wefan.

Eos Pengwern
Guest
Eos Pengwern

Adam! Ffansi cwrdd &circ chi yma! Diolch o galon am dynnu sylw pobl ar y trysorau hyn, er mor siomedig oeddwn i mai Enoc Huws yn hytrach na Rhys Lewis oedd eich dewisi o waith Daniel Owen. Da iawn oedd gweld Wythnos yng Nhymru Fydd ar y rhestr: mae hwn yn gampwaith ac mi faswn i wrth fy modd gael cyfle i gyfieithu hwn, er bod rhyw wybodaeth ohono fo y tu allan i Gymru eisoes. Eto anodd yw dewis rhwng hwn a Chysgod y Cryman am ei waith gorau. Rydw i wedi darllen Seren Wen ar Gefndir Gwyn a’r… Read more »

Cymru Rydd
Guest

Llongyfarchiadau i Adam Pearce am feddwl am syniad mor wreiddiol ac am ennyn y ffasiwn ymateb hefyd! Y deg yna’n gymeradwy iawn wrth gwrs- a mater o chwaeth yw hi’n aml- ond byddwn i’n bersonol yn sicr yn cynnwys Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis ar y rhestr. Mae’n bortread mor afaelgar a chredadwy o fywyd teulu ar fferm yng Ngheredigion-gyda’r fferm ei hun bron yn gymeriad ynddo’i hun yn taflu ei gysgod dros y 3 cymeriad sydd wedi’u meddiannu a’u caethiwo ganddo yn eu ffyrdd eu hunain. Wrth son am gymeriadau “allanol” sy’n llawn mor gredadwy ag unrhyw… Read more »

Eos Pengwern
Guest
Eos Pengwern

Marciau llawn am ddod a Theomemphus i mewn; fel y dywedoch, mae temtasiwn i’w anghofio fel nofel oherwydd ei ffurff barddonol, ond nofel yw, bid siwr – rhywbeth tebyg iawn i Daith y Pererin, ond mewn barddoniaeth. Ac er mai Calfinist trwyadl ydw i, cynhesodd fy nghalon wrth ddarllen yr adnod honno.

Adam Pearce
Guest
Adam Pearce

Mae dadl wrth gwrs i’w chael am ddiffiniad nofel, ond dwi’n credu mai “rhyddiaith” fyddai’r un nodwedd y byddai’n fwyaf hawdd cael pawb I gytuno amdano. Petawn I wedi ystyried Theomemphus (nad ydw i wedi’I darllen) byddai angen meddwl am Gweledigaethau’r Bardd Cwsg, ar Mabinogi hyd yn oed!

Geraint Løvgreen
Guest

Y Fro Dywyll gan Jerry Hunter yn gorfod bod yn y rhestr!

Emlyn
Guest
Emlyn

Diolch yn fawr iawn am y rhestr llyfrau. Rhaid cyfaddef nad wyf wedi darllen bob un ohonynt.
Un pwynt bychan: wnaethoch chi ymdrechu cadw cydbwysedd y cyfnodau a’r cyd-destunau, ond teg nodi mae ond dwy awdures sy’n cael eu cynnwys ymhlith y deg.
Dydw i ddim yn arbenigwr ar lenyddiaeth ein hiaith o bell ffordd, ond tybed a oes nofelwyr teilwng ymhlith awduresau Cymraeg cyn Kate Roberts?

woganjonesblog
Guest

Pwynt teg Emlyn,
Mae gyda ni sawl awdures wych ar hyn o bryd (a dim byd yn erbyn KR – ond sai erioed wedi mwynhau ei gwaith)

Gwell da fi Manon SR, Bethan G, Catrin Dafydd ac wrth gwrs Caryl Lewis.

Adam Pearce
Guest
Adam Pearce

Diolch Emlyn. Ymwybodol bod fy rhestr yn ysgafn o ran Merched yn gyffredinol, ond fel dwedais fy marn i yn unig sydd yma. Ystyriais gynnwys rhywbeth gan Angharad Tomos ond methu meddwl am lyfr ganddi roeddwn in hoffi digon! Gallwn I wedi dewis Martha Jac a Sianco ond byddai wedi gorfod dod ar draul Owen Martell neu Angharad Price; doeddwn I ddim eisiau llyfr arall am y cefn gwlad a ffermio felly roeddwn eisiau cadw Martell (a gurodd Mihangel Morgan am le ar fy rhestr achos, fel gydag Angharad Tomos, on in methu meddwl am un nofel iw dewis), ac… Read more »

siantirdu
Guest

Falch iawn o weld Y Byw sy’n Cysgu ar y rhestr. Newydd ei darganfod ydw i ac mae’n rhoi golwg wahanol i rywun ar Kate. Dwi ddim wedi darllen Y Pla – mi ddwedodd fy nghariad ar y pryd wrtha i nad oeddwn yn ddigon deallus i’w darllen a dwi byth wedi mentro rhag ofn ei fod yn iawn! Dwi wedi dechrau Wythnos yng Nghymru Fydd ddwywaith neu dair ac wedi methu mynd yn bell iawn. Dwi am dreio eto cyn gweld opera Gareth Glyn a Mererid Hopwood. Byddwn i’n argymell Mae Theomemphus yn Hen (Dafydd Rowlands) ac Yn y… Read more »

woganjonesblog
Guest

Llawer ar y rhestr don ni heb glywed amdano. Diolch.

Brian, Francis would hardly be proud.

In the land of Google translate, the one language man is ‘king kidding me. Cyfieitha hon; ti’n blentyn bach.

LoisGwenllian
Guest
LoisGwenllian

Rhestr ddiddorol! Dydw i heb ddarllen pob un ond cytuno fod y rhai dw i wedi’u darllen yn arbennig ac yn haeddiannol o’u lle.

Ychwanegiadau o’m rhan i (oddi ar dop fy mhen):
Blasu gan Manon Steffan Ros
Hi Yw Fy Ffrind gan Bethan Gwanas (I Botany Bay hefyd yn dda ac yn bwrw golwg ar hanes y cyfnod hefyd)
Monica gan Saunders Lewis

Gallai’r rhestr fod yn hirfaith!

Dynasodinas
Guest
Dynasodinas

Mae Theomemphus yn Hen gan Dafydd Rowlands, Marged gan T Glynne Davies, Traed mewn Cyffion, Dan Gadarn Goncrit, Blasu, a Gwen Tomos ymhlith fy ffefrynnau.

Elen
Guest
Elen

Diolch yn fawr am eich gwaith yn paratoi’r rhestr.
Darllenais Wythnos Ysg Nghymru Fydd pan oeddwn yn y 6ed dosbarth (na, nid am ei fod yn or fod ôl!) ac mi gafodd tipyn o argraff arnaf. Agorodd fy llygaid a’m meddwl am ddyfodol yr iaith.
Beth am Pan Ddaw’r Machlud – Alun Jones. Nofel am herwgipipo. Gwaith crefftus iawn yn trafod pwnc oedd yn newydd iawn yn y Gymraeg ar y pryd.

Tame Frontiersman
Guest
Tame Frontiersman

Mae’r nofel “Yma o Hyd” gan Angharad Tomos yn haeddu mwy o sylw nag y mae’n ei chael

Jonathan Simcock
Guest

Dw i wedi darllen 5 o lyfrau sy ar y rhestr, mae gen i sawl hoff nofel fy hunan. Beth am Y Dwr gan Lloyd Jones, Gwales gan Catrin Dafydd, Blasu gan Manon Steffan Ros, Y Dyn Dw ad gan Goronwy Jones, Craciau gan Bet Jones, Dirgel Dyn gan Mihangel Morgan, Y BT hyn gan Caryl Lewis, Crawiau gan Dewi Prysor.