Rhaid claddu’r agwedd Biwritanaidd at farchnata llenyddiaeth Gymraeg

Marchnata Dadeni y tu allan i siop Awen Teifi yn Aberteifi. Llun: Llinos Dafydd

 

Ifan Morgan Jones

Mae’r Gymraeg bellach yn ddigon lwcus o gael dau gylchgrawn llenyddol newydd, sef O’r Pedwar Gwynt a’r Stamp.

Mae’r rhifyn diweddaraf o’r Stamp yn cynnwys adolygiad dienw lled-feirniadol o fy nofel ddiweddaraf Dadeni, er ei bod, mae’n debyg “werth darllen y nofel hon”.

Rhydd i bawb ei farn a dydw i ddim am warafun neb hynny. (Er efallai, os ydyn nhw am adolygu pethau’n ddienw, y dylen nhw gael pwll ehangach o adolygwyr a’i wneud yn llai amlwg pwy sydd wedi adolygu beth.)

Ond beth oedd wedi dal fy sylw yn bennaf oedd y geiriau dechreuol:

“Bu mawr ddisgwyl am y nofel hon a disgwyliadau mawr hefyd yn bennaf o achos ymgyrch hybu a marchnata ddidrugaredd.

“Y mae heip yn broblem gynyddol, gyffredinol ym myd trydar yn Gymraeg gyda phob llyfr yn wych a phob drama yn un berffaith sy’n gwydroi disgwyliadau y gynulleidfa.”

Mae hwn yn agwedd anffodus iawn ac mae’n siomedig ei weld mewn cylchgrawn blaengar fel y Stamp.

Byddai yn ddigon drwg ei weld yn nhudalenau Barn, ond mae golygyddion a chyfranwyr adolygiadau y Stamp oll yn eu 20au cynnar.

Dydw i erioed wedi gweld neb yn beirniadu hawl llyfr Saesneg i’w farchnata ei hun, na unrhyw math arall o gynnwys chwaith.

Parhad ydi hyn yn y bon o agwedd Ymneilltuol-Ryddfrydol a ddaeth i’r amlwg yn yr 19eg ganrif ac a bennodd na ddylai’r Gymraeg gael bodoli o fewn y sffêr fasnachol.

Pleser ysbrydol neu lenyddol aruchel oedd unig ddiben unrhyw beth a gyhoeddir yn Gymraeg, ac yn wir, roedd unrhyw awgrym o weithgarwch masnachol yn rywbeth i ymddiheuro yn ei gylch.

Symptom o feddylfryd ôl-drefedigaethol yw hyn yn y bon. Rhaid dangos bod y Cymry yn foesol well na’r Saeson drwy beidio a ymdrabaeddu yn yr un baw masnachol!

Yn anffodus mae’r agwedd yma wedi bod yn hynod niweidiol i barhad y Gymraeg.

Dadleuai R.J. Derfel ganrif a hanner yn ôl mai un o brif ddiffygion y wasg Gymraeg oedd amharodrwydd i hysbysu pobl am y llyfrau a oedd ar gael, a’u gwneud yn fwy amlwg mewn siopau a marchnadoedd:

“Mae’r fasnach yn cael ei chario ymlaen fel pe byddent yn eiddo anghyfreithlon,” meddai. “Os bydd yno llyfrau Cymraeg o gwbl, byddant yn rhywle o’r tu cefn, rhag ofn i neb eu gweld.”

Sgil effaith hyn oedd bod y wasg Saesneg yn achub y blaen ar y Gymraeg bob cyfle, gan droi cenhedlaeth ifanc o siaradwyr Cymraeg yn rai dwyieithog ac yna yn Saesneg yn unig.

Ac yn anffodus mae’r agwedd wedi parhau hyd heddiw, gyda’r un segil-effaithiau negyddol i’r diwydiant cyhoeddi Cymraeg.

Bûm yn siarad â rhywun sydd â gwybodaeth o’r byd cyhoeddi llyfrau Cymraeg ychydig ddiwrnodiau yn ôl ac fe nododd bod llyfrau yr oedd yr awduron yn eu marchnata yn aml yn gwerthu ddwywaith cymaint â rhai yr oedd eu hawduron yn gwneud dim, beth bynnag eu pwnc neu eu rhinweddau.

Tua 500-1000 o gopïau y mae llyfrau Cymraeg yn eu gwerthu ar gyfartaledd. Ond gyda rhywfaint o hwb masnachol fe allen nhw gyrraedd tua 1500-2000.

Onid yw hynny’n beth cadarnhaol i bawb?

Sgil-effaith arall i’r agwedd Ymneilltuol-Ryddfrydol at lenyddiaeth Cymraeg sy’n mynd dan fy nghroen yw ein bod yn rhy barod i feirniadu unrhyw beth a ystyrir yn ‘sothach’.

H.y. deunydd sydd wedi ei greu at gynulleidfa boblogaidd, a hynny’n bennaf er mwyn gwneud arian.

Cofier i Islwyn Ffowc Elis gael ei feirniadu am ysgrifennu deunydd ‘sothachlyd’, rhy boblogaidd, yn ei ddydd.

Rydw i hyd yn oed wedi gweld llyfrau Llwyd Owen yn cael eu disgrifio fel “sothach da” yn nhudalennau O’r Pedwar Gwynt!

Gwaith Islwyn Ffowc Elis sy’n cael ei gofio heddiw, wrth gwrs.

A phan y bydd academyddion yn crynhoi llenyddiaeth y degawdau hyn fe fydd gan nofelau awduron honedig-‘sothachlyd’ fel Llwyd Owen a Dewi Prysor le amlycach nac amryw i gyfrol sych a apeliodd at gynulleidfa academaidd yn unig.

A’r un bobl sy’n difrïo llenyddiaeth ‘sothachlyd’ yn y Gymraeg sy’n eistedd i lawr i wylio Love Island gyda’r hwyr. Mae sothach yn iawn yn Saesneg!

Mae angen lladd yr agwedd Ymneilltuol-Ryddfrydol yma at gynnyrch y wasg Gymraeg unwaith ac am byth. Mae angen ei losgi, ei gladdu a rhoi stanc drwy ei galon.

Felly mi fydda i’n parhau i farchnata Dadeni ag arddeliad, a hynny’n hollol ddigywilydd. Go on, prynwch hi nawr. Dim ond £8,99 ar Amazon Kindle. Dyma hysbyseb…


Notice: the_widget was called incorrectly. Widgets need to be registered using register_widget(), before they can be displayed. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 4.9.0.) in /var/www/vhosts/nation.cymru/dev.nation.cymru/wp-includes/functions.php on line 4236

We do not moderate comments before they appear. The views expressed in the comments are those of our users and do not necessarily reflect the views of Nation. Cymru. Please read our community standards and participation guidelines before contributing.

newest oldest most voted
Notify of
Ioan Prys
Guest
Ioan Prys

Cytuno bob gair – dim ond nodyn bach i ddweud bod o ar gael ar wefan Awen Menai hefyd!

http://arystrydfawr.com/index.php?id_product=4129&controller=product

Mwy o heip plis..!

Geoff fisher
Guest
Geoff fisher

Eedrychaf ymlaen at darllen y novel yn ein grwp darken mis medi ifan.
Dwi ddim yn geld unrhyw beth o le gyda marchnata llyfrau cymraeg.. ond tybed ydy pwynt ehangach yn cael ei awgrymu yma am yr angen am mwy o adolygiadau beirniadol sylweddol ar llyfrau cymraeg yn gyffredinol yma

Richard Owen
Guest
Richard Owen

Fel un a dreuliodd dros 30 mlynedd yn y maes, cytuno’n llwyr. Mae sawl awdur yn rhy swil i hybu ei waith, ond os ydi awdur yn fodlon gwneud hynny, pob hwyl iddo / iddi. Dim ond un sylw arall – mae yna lawer gormod o ladd ar ‘lyfrau sych, academaidd’ hefyd. Dydi pob llyfr academaidd ddim yn sych, ac mae gwerth i lyfrau sych hefyd! Mae angen pob math o ddeunydd yn y Gymraeg!

Capitalist and Welshnash
Guest
Capitalist and Welshnash

Mae llyfrau Alun Cobb sothach llwyr, a gwastraff amser o safon wael heb ddawn. Eto, dyn pam dwi’n eu hoffi.

Nic
Guest
Nic

Mae’r byd llenyddol yng Nghymru yn ddidrugaredd, yn ffroenuchel ac yn hunanfoddhaus.

Carl Morris
Guest

Yn y Gymraeg does dim llyfr o gwbl s’yn dod yn agos at fod yn ‘achos ymgyrch hybu a marchnata ddidrugaredd’… hyd yn oed os ydyn ni’n tanysgrifio i, neu’n dilyn, pob un cyhoeddwr, sianel, gorsaf, rhestr e-bost a digwyddiad sy’n ymwneud â llyfrau!

Jac
Guest
Jac

Dydi hyn ddim yn ‘good look’, Ifan. Defnyddio platform sydd â damcanion bod yn safle barn a newyddion genedlaethol i adweithio yn bersonol tuag at adolygiad lled-wael.

Os ma’n gwneud i ti deimlo’n well, y cynta glywish i o dy lyfr di oedd yr adolygiad yn Y Stamp, a mi ddaru fo wneud i mi fod eisio’ ei ddarllen o!

Dwi’n meddwl hefyd fod pwynt yr adolygiad yn llawer mwy critigol tuag at yr arfer o ganmol pob nofel gymraeg heb fod yn wrthrychol na tuag at dy nofel di, a mae hynny’n bwynt dilys.